Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Mae achos brys wedi codi i geisio achub Twr y Cloc sydd yn gant a hanner mlwydd oed, tra bod'r Curadur Elen Philips yn llawn cyffro i dderbyn gwrthrych gwerthfawr i'r casgliad.
Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Y tro hwn mae'r gof Andrew Murphy yn chwarae'i ran yn helpu i drwsio tŵr cloc y castell. Mae ffrog sy'n adrodd stori anhygoel cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn cael ei hatgyweirio, yn barod i gael llun ohoni ar gyfer archif ddigidol yr Amgueddfa.
Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Mae Ysgol Maestir o oes Fictoria yn cael ei wagio'n llwyr yn barod am waith adnewyddu a chadwraeth ar yr adeilad a'r eitemau y tu mewn. Mae casgliad newydd, a hollol unigryw, yn cyrraedd y ganolfan gasgliadau anferthol yn Nantgarw.
Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Mae'r adran gadwraeth yn brysur yn gweithio ar eitemau Fictorianaidd o Ysgol Maestir tra bod angen gwaith ditectif i ddysgu mwy am y person tu ôl i lofnod ddaeth i'r golwg tra'n atgyweirio hen dwr y cloc.
Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Wedi 35 mlynedd o waith yn yr Amgueddfa, mae'n bryd i'r peintiwr Clive Litchfield ymddeol. Ond mae Ysgol Maestir ar ei newydd wedd wedi gwaith manwl yn atgyweirio a thrwsio'r stafell ddosbarth.
Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Ar ôl 6 mis o waith adnewyddu, mae'n bryd i'r sgaffald ddod i lawr oddi ar Dwr y Cloc. Yn Fferm Kennixton, mae Ceri'r garddwraig yn cael hwyl yn glanhau'r lloriau wrth stampio perlysiau o'r gerddi i mewn i'r pren.
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Y tro hwn mae'r Amgueddfa'n cynnal gŵyl Hindŵaidd Diwali, mae'r garddwyr yn brysur yn cynaeafu afalau ac mae angel ar goll o eglwys Sant Teilo.
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae gwaith adeiladu ar westy hanesyddol y Vulcan yn datblygu wrth i'r cyrn simnai addurnedig gael eu hailadeiladu, ac mae arddangosfa funud olaf i'w churadu.
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sychu blodau gan ddefnyddio dulliau traddodiadol tra bod y curadur Ceri Thompson yn casglu straeon ac eitemau i'w rhoi mewn i arddangosfa newydd i nodi trychineb Aberfan.
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae hi'n ddiwrnod prysuraf y flwyddyn yn yr Amgueddfa wrth i ddegau o filoedd o ymwelwyr gyrraedd i fwynhau'r ŵyl fwyd. Mae atgyfodiad Gwesty'r Vulcan yn parhau wrth i'r to fynd yn ei le ac mae'r ffenestri lliw yn cael ail-fywyd.
Mae Sain Ffagan yn ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r cloc eiconig, a achubwyd o drychineb Aberfan, yn cael ei symud yn ofalus i'w le ar gyfer arddangosfa. Mae Brian y Ffarmwr angen gwneud gwaith atgyweirio ar gatiau a ffensys hanesyddol ac mae'r Siop Teiliwr yn drysorfa o wrthrychau.
Mae Sain Ffagan yn ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.