Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sychu blodau gan ddefnyddio dulliau traddodiadol tra bod y curadur Ceri Thompson yn casglu straeon ac eitemau i'w rhoi mewn i arddangosfa newydd i nodi trychineb Aberfan.