Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Y tro hwn mae'r Amgueddfa'n cynnal gŵyl Hindŵaidd Diwali, mae'r garddwyr yn brysur yn cynaeafu afalau ac mae angel ar goll o eglwys Sant Teilo.