Rhagflas o Bariau -- Cyfres newydd fydd ar gael fel bocs set o Ionawr 3
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Wrth i Barry ddod dan bwysau am ei benderfyniad annoeth werthu'r cyffuriau oedd o wedi eu darganfod, mae'n ceisio dal pen rheswm gyda'r perchennog. Pan mae hynny'n gwneud y sefyllfa'n waeth, does ganddo ddim dewis ond mynd mewn i bartneriaeth gyda Kit. Mae Peter yn edrych ymlaen at ymweliad ei fam, ond mae amgylchiadau tu hwnt i'w reolaeth yn ei wthio dros y dibyn. Mae perthynas Elin a George yn poethi, ond mae gan Elin ei amheuon.
Mae Barry'n gorfod wynebu realiti gweithio i Kit. I wneud pethau'n waeth, mae'n cael ymweliad gan ei frawd bach, Dale, sy'n datgelu ei fod mewn trafferthion ariannol dybryd. Er bod Barry'n ceisio ei helpu, mae'r sgwrs yn troi'n ffrae ac mae Dale yn gadael dan gwmwl. Mae Elin yn sylweddoli bod George wedi ei thwyllo wedi'r cwbl, ac mae'n gwneud yn amlwg iddi fod ganddi ddim dewis ond mynd yn erbyn ei hegwyddorion. Wrth i Barry ailfeddwl ei berthynas gyda Kit, mae'n cael gwybodaeth sy'n golygu na
Yn difaru ei ffrae gyda Dale, a gyda Kit yn ei reoli fel pyped, mae'r pwysau'n ormod i Barry ac mae'n troi at ddulliau treisgar i gael gwared a'i rwystredigaeth. Mae Peter yn cael newyddion drwg sy'n ei arwain i le tywyll iawn ac mae ymateb Linda'r caplan i'w ddatganiad yn torri ei galon. Mae Elin yn darganfod mai Kit sydd tu ôl i'r ymgais i'w blacmelio, ac mae hi'n penderfynu mai'r unig ffordd allan iddi yw i'w herio wyneb yn wyneb.
Mae Barry'n darganfod bod ei fywyd mewn perygl oherwydd y gwaith mae'n gwneud i Kit, a phan mae Dale yn cerdded mewn i'r wing fel carcharor, mae ei ben ar chwâl yn llwyr. Wrth i Elin a Ned gael eu galw i weld y Warden, maen nhw'n darganfod bod y wing yn cael ei roi dan fesurau arbennig ac mae eu swyddi yn y fantol. Mae Elin yn cytuno smyglo cyffuriau mewn i'r carchar i Kit, ond pan mae hi'n darganfod bod Barry'n gweithio i Kit, mae ganddi un gobaith arall i ddod a'r hunlle i ben.
Wrth i Elin gyrraedd y carchar yn y bore, yn cario cyffuriau i Kit, mae hi'n cael sioc wrth glywed bod y carchar yn cael adolygiad y diwrnod hwnnw. Gyda'r cyffuriau yn gorfod aros ar y tu allan, mae Barry'n cael traed oer ac yn penderfynu nag allith o helpu Elin rhagor. Mae Kit yn colli amynedd gyda phawb sy'n gweithio iddo ac yn bygwth Elin, ond mae hi'n llwyddo i ddod o hyd i'r nerth i dorri'n rhydd o'r diwedd. Mae digwyddiadau'r wythnosau diwethaf yn torri Barry, ond mae ei berthynas gyda Lin