Cyfres newydd yn dilyn disgyblion Ysgol Gynradd Maesincla, Caernarfon - ysgol sy'n ffocysu ar drafod emosiynau.
Yn yr ail raglen, cawn ein cyflwyno i grwp 'Y Brotherhood' - criw o fechgyn sy'n cyfarfod bob bore yn y clwb brecwast
Y tro hwn, mae blwyddyn 6 yn cael eu dysgu gan neb llai na'r prif-athro Mr Roberts trwy'r dydd - ond a fyddan nhw'n barod i wrando?
Y tro hwn, dilynwn hanes brawd a chwaer, Sion a Maya, y ddau yn dysgu mewn ffyrdd unigryw ond cwbl wahanol i'w gilydd.
Yn mhennod 5, ry' ni'n mynd adre o'r ysgol gyda thri o'r disgyblion, ac yn darganfod bod bywyd yn wahanol iawn i bob un.
Mae'n dymor yr haf, ac yn ogystal â'r mabolgampau a'r Eisteddfod ysgol, mae'r Prom yn cael ei chynnal i ffarwelio efo blwyddyn 6.
Gofid a gobaith: y lockdown trwy lygaid plant ac athrawon Ysgol Maesincla.
Ar ôl tri mis hir iawn adre, mae rhai o wynebau cyfarwydd Ysgol Maesincla yn dychwelyd i'r ysgol.
Heb gyngerdd Nadolig arferol, a dim cyfle i rieni na Nain a Taid gael dod i'w gweld, mae'r plant wedi mynd ati i greu cyngerdd gwahanol eleni mewn bybyls eu hun.