Della Howells, Cyfarwyddwr Amgueddfa yn ei 40au sy'n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc, ac yn disgyn o fod yn ddynes dosbarth canol barchus i fod yn rhan o is-fyd troseddol y byd celf.
Wrth i Della Howells gychwyn ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa, mae ei pherthynas cymhleth gyda Caleb yn dwyshau. Beth yw cymhellion Caleb wrth iddo feithrin perthynas gyda Della ai mab, Daniel, ar yr un pryd?
Yn ystod ymweliad boreol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n gwbl ddirybudd, ond Daniel, ei mab.
Yn ystod ymweliad boreol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n dir Budd ond Daniel, ei mab
Mae bywyd Della'n dirywio ymhellach, ac fe ddatgelir cyfrinach fawr am ddilysrwydd un o luniau mwyaf gwerthfawr yr Amgueddfa
Gyda'i bywyd yn ddeilchion, mae Della'n gwneud darganfyddiad ysgytwol.
Bellach ar secondiad i amgueddfa fach Sir Gâr, mae Bella'n byw gyda Caleb ac wrthi'n trio delio gyda anhrefn y gweithle newydd.
Mae pethau'n mynd yn fwy rhyfedd ym mywyd gwledig Della wrth i ddwr y ty droi'n ddu ac wrth i batshys ymddangos a diflannu.
Mae Clogyn Aur Yr Wyddgrug ar ei ffordd o'r Amgueddfa Brydeinig i Amgueddfa fechan Sir Gar, one mae'n poeni am Fioled.
Mae Della a Glyn ar bigau yn aros i'r Clogyn Aur amhrisiadwy gyrraedd o Lundain, ond mae na rywun arall - Fioled - yr un mor eiddgar.
Mae'r Rembrandt enwog wedi dilyn Della i Gaerfyrddin, ac wedi dod i glawr yn nhy Heddwyn.
Y bennod olaf ac angladd Heddwyn. A fydd Della'n gallu ymdopi gyda'r deyrgned o ystyried be ddigwyddodd y tro diwethaf iddi weld Heddwyn yn fyw?