Cyfres newydd. Y tro yma ar Y Fets, mae ci defaid un o chwaraewyr rygbi amlyca Chymru, Elinor Snowsill, wedi ei geni a phroblem fawr ar ei choes blaen. A fydd Kate y fet yn gallu arbed y goes' Mae Dafydd angen trin buwch a mul styfnig ar rai o ffermydd yr ardal. A nôl yn y practis mae Iwan angen gwneud llawdriniaeth frys i arbed ci sydd wedi mynd i drafferthion wrth eni cwn bach, ac mae gan Terry'r fferet broblem fach digon sensitif.
Mae gwaith y nyrsus yn hynod bwysig er mwyn i¿r practis weithredu¿n effeithiol o ddydd i ddydd. Ma'n rhaid i'r tim fod yn hynod ofalus wrth drin ci peryglus dros ben sydd angen triniaeth i dynnu tyfiant cas. Ma na sawl her yn wynebu Phil ac Iwan wrth iddyn nhw helpu efo'r lloia ar hyd ffermydd yr ardal. Ac mae¿r rhyfel yn yr Wcrain yn cael effaith ar waith y practis. Beth fydd eu hanes yn y Fets.
Mae pob math o anifeiliaid difyr yn ymweld â¿r practis gan gynnwys gŵydd a tri chi sydd a diddordeb mawr mewn cerddoriaeth. Mae gan Twti ddeiet llym i¿w ddilyn a dyw hynny ddim at ei dant. Ac mae Kate angen ceisio trwsio clun ci defaid sydd wedi ei ddatgymalu Mae hefyd yn gyfnod prysur dros ben i Dafydd gan mai ef sydd ar ddyletswydd ar draws pedair awr ar hugain. Beth fydd yr hanes yn y Fets
Y tro yma ar y Fets mae theatr Kate yn llawn dop gyda thriniaethau i helpu anadlu bulldogs, mae sgiliau llawfeddygol Hannah hefyd yn cael eu profi wrth iddi drin Robin y ci defaid a Meeko y Pomeranian sydd wedi torri eu coesau. Ac mae tymor wyna yn ei anterth ac mae'r sied yng nghefn y practis yn llawn triniaethau ar oen bach.