Home / Series / Shwshaswyn / Aired Order /

All Seasons

Season 1

  • S01E01 Nôl a 'Mlaen

    • August 29, 2018

    Os yw'r byd yn teimlo yn rhy brysur, dewch i Shwshaswyn i gael saib. Heddiw, mae Fflwff yn mynd 'nôl a 'mlaen efo blodyn.

  • S01E02 Peintio

    • September 5, 2018

    Mae Seren yn creu darlun, mae'r Capten yn sylwi ar ddiferion paent ac mae Fflwff yn dysgu sut i stampio siapiau.

  • S01E03 Pobi

    • September 12, 2018

    Heddiw yn Shwshaswyn, mae Capten yn creu toes, Fflwff yn edrych ar flawd a Seren yn pobi torth.

  • S01E04 Sgleiniog

    • September 19, 2018

    Mae Seren yn darganfod papur disglair wedi ei adael yn y parc, ac mae'r Capten yn mynd ar y llithren.

  • S01E05 Broc môr

    • September 26, 2018

    Mae'r llanw wedi gadael bob math o geriach ar ôl, ac mae'r Capten, Fflwff a Seren yn ei glirio.

  • S01E06 Dillad

    • October 3, 2018

    Mae Fflwff yn darganfod sgarff i'r Capten gael cogio morio arni, ac mae gan Seren bâr o fenyg arbennig iawn.

  • S01E07 Hydref

    • October 10, 2018

    Heddiw, mae gan y Capten fes, tra mae Fflwff yn dawnsio gyda'r dail cyn i Seren eu hel i'w llyfr lloffion.

  • S01E08 Haul

    • October 17, 2018

    Mae'n heulog ar y traeth heddiw, a phawb angen oeri ychydig.

  • S01E09 Jam

    • October 24, 2018

    Mae pawb angen ffrindiau i'w codi weithiau, ac heddiw mae Fflwff yn rhannu jam blasus gyda Seren a'r Capten!

  • S01E10 Troelli

    • October 31, 2018

    Heddiw mae Fflwff yn troelli fel hedyn sycamorwydden, mae'r Capten yn reidio'r troellwr a Seren yn chwarae efo io-io.

  • S01E11 Castell tywod

    • November 7, 2018

    Mae'n hwyl adeiladu castell tywod, ond weithiau mae'n fwy o hwyl fyth cael ei ddymchwel.

  • S01E12 Cawl

    • November 14, 2018

    Heddiw, mae gan y Capten botel ddiddorol, mae Seren yn chwarae â photiau halen a phupur, ac mae Fflwff yn mwynhau powlenaid o gawl.

  • S01E13 Eira

    • November 21, 2018

    Beth sydd yna i'w wneud yn y parc pan mae'r eira yn toddi? Mae Fflwff wrth ei fodd efo'r plu eira!

  • S01E14 Nant

    • November 25, 2018

    Y tro hwn - cyfle i'r Capten hwylio, i Fflwff ysgwyd gyda'r gwair ac i Seren ddod o hyd i ddarn diddorol o raff.

  • S01E15 Golchi Llestri

    • December 2, 2018

    Mae'r fowlen golchi llestri yn llawn swigod ac mae Fflwff wrth ei fodd yn eu dynwared. Mae Seren yn hoffi swn y dwr yn arllwys i mewn i'r sinc. Ond beth mae'r Capten yn ei wneud yn y sinc?

  • S01E16 Garddio

    • December 12, 2018

    Yng ngardd y parc mae'r Capten yn dyfrio'r pridd i Seren blannu hadau. Ond pa flodyn sydd wedi tyfu yno'n barod?

  • S01E17 Lliwgar

    • December 19, 2018

    Mae'r traeth yn llawn o ryfeddodau lliwgar. Mae Fflwff a'i fryd ar gysgodwr gwynt, a'r Capten a Seren a'u llygaid ar gylch rwber a pharasol.

  • S01E18 Creu

    • December 26, 2018

    Beth yw'r holl bethau ar y bwrdd? Papur, glud a rhubanau. Gyda rhain, mae Seren yn dysgu am origami, mae'r Capten yn dysgu am y glud a Fflwff yn creu hunan-bortread.

  • S01E19 Swigod

    • January 2, 2019

    Pwy sy'n creu'r holl swigod yma? Nid yw Fflwff yn malio, mae o am fod yn swigen, ac mae Seren yn mwynhau eu rheoli!

  • S01E20 Pwll cerrig

    • January 9, 2019

    Mae nifer o greaduriaid yn byw yn y pwll cerrig, ac mae gan Seren rwyd i'w gweld yn well!

  • S01E21 Goleuni

    • January 16, 2019

    Mae gan y Capten gannwyll, Seren fflachlamp, ond mae Fflwff yn defnyddio'r tywyllwch i sylwi'n well ar y tân gwyllt tu allan.

  • S01E22 Côn

    • January 23, 2019

    Beth yw siâp y gragen sydd gan y Capten? Siâp côn! Beth arall sy'n siâp côn? Corned hufen iâ!

  • S01E23 Ffair

    • January 30, 2019

    Mae pawb wedi dod â danteithion yn ôl o'r ffair heddiw - candi fflos, cneuen goco ac afal taffi!

  • S01E24 Cartre?

    • February 6, 2019

    Pa gartrefi allwn ni sylwi arnynt yn y parc? Mae malwod yn cario eu cartrefi ar eu cefnau, ac adar yn gallu byw mewn tai adar.

  • S01E25 Hwylio

    • February 13, 2019

    Ni ar y môr! Fflwff sy'n mwynhau mynd nôl a mlaen, Seren sy'n mwynhau mynd i fyny ac i lawr a'r Capten sy'n mynd rownd a rownd!

  • S01E26 Gwanwyn

    • February 20, 2019

    Pwy sydd wedi gadael llyfr lluniau yn y parc? Mae'r criw yn mwynhau edrych arno!

Season 2

  • S02E01 Pell ac Agos

    • June 2, 2019

  • S02E02 Bach a Mawr

    • September 9, 2019

  • S02E03 Fyny a Lawr

    • September 16, 2019

  • S02E04 Poeth ac Oer

    • September 23, 2019

  • S02E05 Sych a Gwlyb

    • September 30, 2019

  • S02E06 Cyflym ac Araf

    • October 7, 2019

  • S02E07 Llyfn a Garw

    • October 14, 2019

  • S02E08 Mewn ac Allan

    • October 21, 2019

  • S02E09 Swnllyd a Thawel

    • October 28, 2019

  • S02E10 Caled a Meddal

    • November 4, 2019

  • S02E11 Gwlyb a Sych eto

    • August 24, 2020

    Heddiw, mae hi'n bwrw glaw yn y parc, felly mae'r Capten, Seren a Fflwff yn edrych ar sut mae creaduriaid yn cadw'n sych.

  • S02E12 Glan a Budr

    • August 31, 2020

  • S02E13 Goleunni a Thywyllwch eto

    • September 7, 2020

    Heddiw, mae Fflwff, y Capten a Seren yn goleuo'r gegin dywyll gyda fflachlamp.

  • S02E14 Swnllyd a Thawel eto

    • September 14, 2020

    Heddiw mae Seren yn clywed swn tawel yn y parc, mae Fflwff yn gwrando ar gân adar bach ac mae'r Capten yn canolbwyntio ar froga swnllyd.

  • S02E15 Hir a Byr eto

    • September 21, 2020

    Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn cymharu pethau hir a phethau byr mae nhw wedi darganfod ar y traeth.

  • S02E16 Trwm ac Ysgafn

    • September 28, 2020

    Heddiw, mae'r Capten a Seren yn gwneud diod gyda ffrwythau, ond pwy sydd am ei yfed tybed?

  • S02E17 Llawn a Gwag

    • October 5, 2020

    Heddiw, mae gan Seren fag yn llawn losin, mae Fflwff yn darganfod berfa yn llawn o ddail tra mae'r Capten yn gwagio bwced sydd yn llawn o ddwr.

  • S02E18 Agor a Chau

    • October 12, 2020

    Heddiw, mae Fflwff yn agor a chau ymbarel, ac mae'r Capten yn gwrando ar gregin yn agor a chau.

  • S02E19 Hen a Newydd

    • October 19, 2020

    Heddiw, mae gan Seren esgidiau glaw newydd, mae Fflwff eisiau chwarae efo hen ddail tra mae'r Capten yn sylwi fod bywyd newydd wedi dod i'r parc.

  • S02E20 Pell ac Agos eto

    • March 8, 2021

    Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn y gegin i weld pa mor wahanol mae pethau yn edrych o fod yn bell i ffwrdd neu yn agos atynt.

  • S02E21 Bach a Mawr eto

    • March 12, 2021

    Mae Fflwff eisiau bod yn goeden fawr ac yn ddeilen fach, mae'r Capten yn cymharu blodyn haul a blodyn menyn, tra mae Seren yn edrych ar drychfil mawr a thrychfil bach!

  • S02E22 Fyny a Lawr eto

    • March 15, 2021

    Heddiw, mae Seren yn codi a dymchwel castell tywod, mae Fflwff yn adeiladu twr o'r cerrig sydd ar y traeth tra ma'r Capten yn mynd i fyny ac i lawr ar donnau'r môr.

  • S02E23 Oer a Phoeth eto

    • March 19, 2021

    Heddiw, mae'r Capten yn rhoi menyn oer ar dôst poeth Seren, tra mae Fflwff yn chwarae yn y stêm cynnes.

  • S02E24 Hir a Byr

    • March 22, 2021

    Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn y parc yn edrych ar greaduriaid hir a chreaduriaid byr.

  • S02E25 Traeth

    • March 26, 2021

    Heddiw mae hi'n boeth ar y traeth ac mae Seren, Fflwff a'r Capten yn mynd i'r cysgod i ddianc o'r gwres.

  • S02E26 Mewn ac Allan eto

    Dewch i Shwshaswyn am gyfle i arafu a chanolbwyntio. Heddiw, mae hi'n boeth ar y traeth ac mae Seren, Fflwff a'r Capten yn mynd i mewn i'r cysgod i fod allan o'r gwres.

  • S02E27 Cyflym ac Araf eto

    • March 29, 2021

    Mae Fflwff, y Capten a Seren yn defnyddio blawd, siwgwr, wyau a menyn i greu cacen a chymysgu'n gyflym ac yn ara.