Home / Series / Sali Mali / Aired Order /

All Seasons

Season 1

Season 2

Season 3

  • S03E01 Dydd Gwyl Dewi

    • March 2, 2021
    • S4C

    Mae Sali Mali a'i ffrindiau'n dathlu Dydd Gwyl Dewi drwy wisgo i fyny a choginio pryd o fwyd blasus!

  • S03E02 Hwyl Yn Gwersylla

    • January 19, 2021
    • S4C

    Mae Sali Mali'n cynllunio i fynd i wersylla ar ei phen ei hun ond yn colli peth o'i hoffer. All ei ffrindiau ei hachub?

  • S03E03 Jig-So Jac Do

    • January 26, 2021
    • S4C

    Ar ddamwain, mae Jac Do'n torri fâs Sali Mali wrth chwarae pêl-droed yn y ty!

  • S03E04 Gwenynen Bigog

    • February 2, 2021
    • S4C

    Dywed Sali Mali wrth ei ffrindiau am beidio ag ofni'r wenynen sy'n suo o'u cwmpas, ond mae Jaci Soch yn ei gwylltio a chaiff ei golio ar ei ben-ôl!

  • S03E05 Garddio

    • February 16, 2021
    • S4C

    Penderfyna Sali Mali a'i ffrindiau blannu hadau yn yr ardd. Ni all Jac Do aros i'r tyfu, felly mae'n penderfynu cyflymu pethau!

  • S03E06 Car Newydd Y Pry Bach Tew

    • February 11, 2021
    • S4C

    Mae car swnllyd Pry Bach Tew yn torri lawr ac mae Sali Mali yn mynd ati i'w drwsio.

  • S03E07 Jac Do, Ffotograffydd O Fri

    • February 23, 2021
    • S4C

    Mae Jac Do'n ffotograffydd gwael ac mae ei ffrindiau'n gwneud hwyl am ben ei luniau! 'Dyw e ddim yn hapus am hyn, ond mae Sali Mali yn achub y dydd!

  • S03E08 Noswyl Nadolig

    • December 24, 2021
    • S4C

    Mae Sali Mali'n paratoi ar gyfer y 'Dolig gyda help ei ffrindiau a Meri Mew'n disgyn lawr y corn simdde a'i lanhau'n barod ar gyfer ymweliad Siôn Corn!

  • S03E09 Oen Bach Anweledig

    • January 5, 2021
    • S4C

    Mae Sali Mali a'i ffrindiau'n achub oen bach sydd wedi mynd yn gaeth o dan eira gyda'i fam.

  • S03E10 Hwyl Yn Yr Eira

    • January 12, 2021
    • S4C

    Mae Jac Do'n penderfynu chwarae tric ar ei ffrindiau trwy esgus bod yn dderyn-eira.

  • S03E11 Cysgod Sali Mali

    • January 7, 2021
    • S4C

    Yn ystod toriad pwer trydan, mae Sali Mali'n difyrru ei ffrindiau drwy wneud pypedau cysgod sy'n ddiddorol ond hefyd yn ddychrynllyd.

  • S03E12 Toriad Gwawr

    • January 14, 2021
    • S4C

    Mae Jaci Soch yn benderfynol o glywed côr y wawr ac yn ceisio cadw'n effro mewn sawl ffordd wahanol wrth aros i'r wawr dorri.

  • S03E13 Y Bwgan Brain

    • January 21, 2021
    • S4C

    Mae Jac Do yn chwarae tric ar ei ffrindiau trwy guddio dan het bwgan brain, ond mae ei ffrindiau'n cael y gorau arno.

  • S03E14 Naid Broga

    • January 28, 2021
    • S4C

    Mae Sali Mali mewn penbleth wrth weld olion traed dieithr ar garreg y drws ac mae'n canfod mai rhai broga ydyn nhw. Mae'r Broga's dysgu ffrindiau Sali Mali sut i neidio un dros y llall ac mae pawb yn gwneud naid broga ar draws yr ardd nes bod y Broga'n cyrraedd yr ôl i'r pwll.

  • S03E15 Tomos Bach

    • February 4, 2021
    • S4C

    Mae Tomos Caradog yn rhy fach i wneud llawer o bethau, ond mae o'r maint perffaith i gyrraedd dîs sy'n mynd ar goll.

  • S03E16 Diwrnod Crempog

    • February 16, 2021
    • S4C

    Pam fod Sali Mali'n taflu ei beret i'r awyr? Ymarfer ar gyfer Diwrnod Crempog mae hi ac mae ei ffrindiau am wneud crempog hefyd.

  • S03E17 Y Band

    • February 18, 2021
    • S4C

    Mae ffrindiau Sali Mali'n gwneud twrw mawr, ond mae hi'n cael trefn arnynt ac yn ffurfio band go iawn

  • S03E18 Y Robot

    • February 25, 2021
    • S4C

    Torra Jac Do ei galon wrth ddod o hyd i robot tegan, a gollodd amser maith yn ôl, mewn cyflwr truenus, ond mae Gan Jaci Soch a Tomos Caradog gynllun i adeiladu robot gwell.

  • S03E19 Hedfan Barcud

    • March 9, 2021
    • S4C

    Caiff Tomos Caradog ei gludo ar adain y gwynt wrth i Sali Mali a'i ffrindiau hedfan barcud.

  • S03E20 Tim Yn Trwsio

    • March 30, 2021
    • S4C

    Gan fod glaw'n dod i mewn drwy dwll yn y to, rhaid i Sali a'i ffrindiau gyd-weithio i wneud ychydig o waith trwsio.

  • S03E21 Pendro Pel Droed

    • March 23, 2021
    • S4C

    Mae Meri Mew yn trio rhyddhau pêl Sali Mali wedi iddi fynd yn sownd mewn coeden, ond rhaid i Meri Mew ei hun gael ei hachub gan fod ganddi ofn uchder.

  • S03E22 Ffrindiau Gorau

    • April 6, 2021
    • S4C

    Mae Jac Do'n rhoi prawf ar gyfeillgarwch ei ffrindiau drwy fwyta eu cacennau, ac o gael boen bol mae'n dysgu bod rhannu'n beth da!

  • S03E23 Hetiau Pasg

    • March 30, 2021
    • S4C

    Mae Pry Bach Tew'n benderfynol o ennill y gystadleuaeth Hetiau Pasg, hyd yn oed drwy dwyll!

  • S03E24 Gweni Gwadden

    • April 13, 2021
    • S4C

    Mae Sali a'i ffrindiau'n cyfarfod gwahadden sydd ar goll ac yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng dwyrain a gorllewin.

  • S03E25 Hobi Newydd Sali Mali

    • April 20, 2021
    • S4C

    Mae gan Sali Mali olwyn crochennydd newydd ac mae'n canfod hobi newydd. Mae ei ffrindiau am greu pethau hefyd ac yn dechrau llunio siapiau gyda chlai, ond Tomos Caradog yw'r un mwyaf creadigol, wrth iddo greu cerfluniau o gaws!

  • S03E26 Y Den

    • April 30, 2021
    • S4C

    Mae Jac Do i fod yn helpu i wneud y gwely, ond mae'n penderfynu gwneud den yn lle hynny.