Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, bryd, tirwedd, plant a'r diwylliant yno. Y tro hwn: trip i Sbaen.
Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, bryd, tirwedd, plant a'r diwylliant. Tro hwn: trip i Wlad yr Ia.
Heddiw ry' ni am ymweld â Ffrainc, i fwyta bwyd Ffrengig fel escargot a croissants ac ymweld â'r brifddinas, Paris, i ddysgu am ei thirnodau fel y Twr Eiffel.
Heddiw, ry' ni'n ymweld â gwlad sy'n llawn anialwch a phethau hanesyddol - Yr Aifft. Yma, byddwn yn dysgu am yr Eifftiaid Hynafol, pyramidiau Giza, a chrefydd.
Dewch ar daith o gwmpas y byd! Heddiw: ymweliad â chyfandir Asia a gwlad Siapan. Yma, byddwn ni'n dysgu am fwyd Siapaneaidd fel swshi ac yn ymweld â'r brifddinas sef Tokyo.
Heddiw, awn ar antur i wlad fawr - Unol Daleithiau America - i ddysgu am y brifddinas, sef Washington D.C., bwyd, a chwaraeon Americanaidd.
Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, bryd, tirwedd, plant a'r diwylliant yno. Y tro hwn: trip i Kenya.
Heddiw bydd yr antur yn mynd â ni i wlad Sweden, i ddysgu mwy am dirwedd Sweden, bwyd traddodiadol fel peli cig ac ymweld â Stockholm, sef y brifddinas.
Rhaglen lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, y diwylliant ayb. Y tro hwn: trip i'r Emiraethau Arbabaidd Unedig.
Rhaglen i blant lle ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, bryd, tirwedd, plant a'r diwylliant yno. Tro ma: trip i'r Almaen.
Heddiw, ry' ni'n teithio i ochr arall y byd, i wlad Awstralia. Yma, dysgwn am fywyd gwyllt fel y cangarw, a chawn ymweld â dinas Sydney a'r brifddinas Canberra.
Heddiw, teithiwn i wlad fwyaf Asia, sef Tsieina, ble byddwn ni'n dysgu am draddodiadau, bwyd Tsieineaidd ac yn ymweld â phrifddinas Beijing i ddysgu am y wal fawr.
Heddiw ry' ni am ymweld â chyfandir Ewrop ac yn teithio i wlad Groeg i fwyta bwyd fel olewydd a Moussaka, ymweld â'r brifddinas Athens, a dysgu am y Groegiaid Gynt.
Heddiw, teithiwn i'r Dwyrain Canol er mwyn ymweld ag Israel. Yma, byddwn ni'n dysgu am yr iaith Hebraeg, hanes prifddinas Jerwsalem a'r crefydd cenedlaethol sef Iddewiaeth.
Heddiw, awn ar antur i'r Swistir i weld mynyddoedd yr alpau, dinas Zurich, a'r brifddinas Bern, yn ogystal â dysgu am bethau enwog o'r wlad fel yr alphorn.
Heddiw, trip i Jamaica - gwlad sy'n enwog am gerddoriaeth reggae, pobl Rastaffariaid a bwyd fel cyw iâr jerk.
Heddiw, awn ar antur i wlad fwyaf De America, sef Brasil.
Heddiw ni'n teithio i Ogledd Ynys Prydain i ymweld â'r Alban.
Mae'r wlad ry' ni am ymweld â hi heddiw ar gyfandir Ewrop a'i henw hi yw'r Eidal.
Dewch ar daith o gwmpas y byd. Heddiw rydyn ni'n ymweld â Gwlad Thai.
Dewch ar daith rownd y byd. Heddiw, teithiwn i Fecsico.
Heddiw ry' ni am ymweld â'r wlad fwyaf deheuol ar gyfandir Affrica, De Affrica.
Y tro hwn, teithiwn i wlad yng nghanol Ewrop - Gwlad Pwyl.
Heddiw, ymweliad â Wganda yn Affrica. Ar ein taith heddiw, byddwn yn dysgu am anifeiliaid sy'n byw yno fel y garan lwyd goronog ac yn ymweld â phrifddinas Kampala.
Ymweliad â gwlad fawr sy'n gartref i dros biliwn o bobl, India. Byddwn yn dysgu am grefydd Hindwaeth, tirnodau fel y Taj Mahal, a'r brifddinas New Delhi.
Heddiw byddwn ni'n teithio i gyfandir Ewrop er mwyn dweud "Olá" wrth wlad Portiwgal.
Ymweliad â'r ail wlad fwyaf yn y byd o ran maint tir sydd yng Ngogledd America - Canada.
Dewch ar daith o gwmpas y byd! Beth am deithio i'r ynys werdd, sef Iwerddon?
Y tro hwn: Seland Newydd. Yma byddwn ni'n ymweld â'r brifddinas Wellington, yn dysgu am y bobl Maori, ac yn edrych ar symbolau cenedlaethol fel yr aderyn ciwi.
Awn i'r Ariannin yn Ne America i ddysgu am fwyd fel asado ac ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia.
Heddiw teithiwn i Indonesia, gwlad sydd wedi'i gwneud o filoedd o ynysoedd ar gyfandir Asia.
Heddiw: ymweliad â gwlad sy'n llawn coedwigoedd glaw trofannol a mynyddoedd hudol: Periw.
Tro ma: Lloegr. Awn i Lundain i weld y tirnodau enwog a bwyta bwyd traddodiadol fel sgod a sglod.
Heddiw, rydyn ni'n ymweld â gwlad Twrci i ddysgu am y grefydd Islam, ymweld â'r brifddinas Ankara a bwyta bwyd fel cebabs a melysion gwlad Twrci.
Heddiw, rydyn ni'n teithio i wlad sy'n ynys o'r enw Madagasgar. Yma byddwn ni'n dysgu ychydig o iaith Malagasi, dysgu am fanila ac ymweld â'r brifddinas Antananarivo.
Heddiw, teithiwn i benrhyn Corea i weld gwlad De Corea. Dyma wlad sy'n siarad yr iaith Corëeg ac yn enwog am fwyd fel Kimchi a chrefft ymladd o'r enw Taekwondo.
Heddiw ry' ni am ymweld â Gogledd Ewrop er mwyn ymweld â gwlad Norwy. Gwlad Sgandinafaidd yw hi sy'n enwog am ffiordau, y brifddinas Oslo a'i hanes Llychlynnaidd..
Beth am deithio i wlad De Americanaidd o'r enw Chile? Yma, byddwn ni'n dysgu am fwyd fel empanadas, y brifddinas Santiago a cherfluniau Moai ar Ynys y Pasg.
Tro ma: Cymru! Dyma wlad gyda heniaith, sef y Gymraeg, cestyll, bwyd enwog fel bara lawr a phrifddinas o'r enw Caerdydd.
Heddiw, byddwn ni'n mynd ar antur i wlad isel gyda'r enw 'Yr Iseldiroedd'.
Mae Costa Rica yn enwog am goedwigoedd cwmwl sy'n gartref i fywyd gwyllt egsotig fel y twcan a'r diogyn. Hefyd byddwn yn ymweld â'r brifddinas, San José.
Heddiw bydd yr antur yn mynd â ni i gyfandir Ewrop ac i Wlad Belg. Yma, byddwn ni'n dysgu am brifddinas Brwsel a'i phwysigrwydd i wleidyddiaeth Ewrop.
Heddiw ni'n teithio i wlad sy'n grefyddol ac yn gartref i fynydd talaf y byd, sef Nepal.
Heddiw: ymweliad ag Asia ac Ynysoedd y Philipinau - gwlad sydd wedi ei gwneud o 700 o ynysoedd.
Heddiw rydyn ni'n ymweld â gwlad Denmarc er mwyn dysgu am y brifddinas Copenhagen, yr awdur enwog Hans Christian Andersen, a bwyd enwog fel crwst Danaidd.
Heddiw, teithiwn i ddinas-wladwriaeth Singapôr. Dyma wlad fach gyda llefydd arbennig fel Gerddi wrth y Bae a chanolfannau Hawker lle allech chi drio bwyd fel cranc tsili.
Heddiw ry' ni am ymweld â gwlad sy'n gartref i goedwig law yr Amason a mynyddoedd yr Andes - Colombia!
Beth am deithio i Gorn Affrica i ddysgu am wlad Ethiopia? Dyma wlad sy'n enwog am athletwyr gwych, bywyd gwyllt fel yr Ibecs a'r brifddinas sef Addis Ababa.
Heddiw, rydyn ni'n ymweld ag Ynysoedd y Bahamas. Mae'r wlad hon yn gysylltiedig â hanes morladron ac yn enwog am draethau hardd a dathliad o'r enw Junkanoo.
Bydd taith heddiw'n mynd â ni i Fongolia sydd yn Asia - gwlad sy'n bell iawn o'r arfordir sy'n gartref i'r anialwch Gobi.
Heddiw bydd yr antur yn Ewrop am ein bod yn ymweld ag Awstria, gwlad sy'n enwog am gyfansoddwyr cerddoriaeth glasurol fel Mozart a chadwyn o fynyddoedd Yr Alpau.