Yn seiliedig ar nofel gyntaf Iwcs, dilynwn hanes bywiog y prif gymeriad, Carbo, ar daith llawn cyffro a thorcalon.
Mae Carbo yn mynd i ffwrdd ar ben ei hun, ond pan dderbynia alwad ffôn gan Antonia mae'n cael ei swyno ac yn dewis aros.
Mae Carbo yn teithio i Ogledd Cymru ac yn cyfarfod Gronw; mae'n derbyn newyddion trist am orffennol ei dad.
Mae'r gang gyda'i gilydd am y tro cyntaf ac mae'r cynllun o ddial ar gychwyn.
Parhau mae'r ymarferion ar gyfer yr heist ac mae'r criw yn penderfynu mynd i'r dafarn i ymlacio.
Mae'r criw yn barod am yr heist ond mae Mici yn croesi Terrence Huston a daw newyddion trist am Gronw.